Calon Lan lyrics
Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’I berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Aur y byd na’I berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
__
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu
Canu’r dydd a chanu’r nos.
Dim ond calon lân all ganu
Canu’r dydd a chanu’r nos.
__
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
__
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd I’r nef ar adain cân
Ar I Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi I mi galon lân.
Ar I Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi I mi galon lân.